Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Cylch gwaith y Pwyllgor

 

Papur briffio

 

 

Cyflwyniad

Rôl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw craffu ar bolisïau a deddfwriaeth yn ymwneud ag iechyd corfforol, iechyd meddwl ac iechyd cyhoeddus pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Disgwylir i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno adroddiad ar bortffolios a chyfrifoldebau pwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad, er nad yw’r adroddiad hwn wedi’i osod eto. Bydd aelodau’r Pwyllgor yn cael copi o’r adroddiad pan fydd ar gael. Yn y cyfamser, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno dros dro ar gyfrifoldebau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: pob agwedd ar y GIG; gofal cymdeithasol; gwasanaethau iechyd meddwl; iechyd cyhoeddus  a diogelu iechyd; gwella iechyd a phobl hŷn a gofalwyr; gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol; rheoleiddio gofal preswyl, gofal yn y cartref, lleoliadau oedolion, cymhorthion, addasiadau a chymorth i fyw gartref; byw’n annibynnol; gofal yn y gymuned; Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; diogelwch bwyd; ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol; gwasanaeth iechyd y gwasanaeth carchardai; polisïau’r UE yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol.  

Mae’r papur hwn yn rhoi cyflwyniad byr i’r prif feysydd polisi a nodir ym mhortffolio’r Pwyllgor, fel y cytunwyd arnynt dros dro gan y Pwyllgor Busnes. Nod y papur yw rhoi gwybod i’r Aelodau am gylch gwaith y Pwyllgor. Gall y Gwasanaeth Ymchwil baratoi papur briffio ar wahân ar y materion allweddol yn y portffolio; neu bapur yn manylu ar faes polisi penodol, ar gais Aelodau.

 

 

Cynhyrchwyd y papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Hatherley yn y Gwasanaeth Ymchwil
Ffoniwch est. 8447
E-bost:
Sarah.Hatherley@wales.gov.uk

Description: Description: Description: Description: Description: \\GBA01\Home\OrrR\My Pictures\MRS2.PNG

 

 


Trosolwg ar Gylch Gwaith y Pwyllgor

Mae cylch gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn wahanol i gylch gwaith y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol blaenorol.  

O dan strwythur newydd y Pwyllgor, mae iechyd plant, gofal cymdeithasol i blant, diogelu plant a’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd  (CAFCASS) yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

Gan hynny, mae rhywfaint o waith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gorgyffwrdd.

Mae Llywodraeth Leol yn rhan o gylch gwaith eang y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

 

 

          

 


Meysydd polisi allweddol yng nghylch gwaith y Pwyllgor

 

Polisïau a gwasanaethau iechyd

Polisi Iechyd Cymru

Ym 1999, cafodd y cyfrifoldeb dros bolisi iechyd Cymru ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1].  Yn ôl Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006[2]:

¡  Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau dros: hybu iechyd, atal, trin a lleihau clefydau, salwch, anafiadau, anabledd ac anhwylder meddwl; rheoli clefydau; cynllunio teulu; darparu gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau a chyfleusterau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol a gwasanaethau a chyfleusterau ategol; llywodraethu clinigol a safonau gofal iechyd; trefniadaeth y gwasanaeth iechyd gwladol ac ariannu’r gwasanaeth hwnnw.  

¡  Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau datganoledig dros: erthyliad; geneteg ddynol, ffrwythloni dynol, embryoleg  ddynol; trefniadau benthyg croth; senotrawsblaniad; rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol (gan gynnwys pobl sy’n dosbarthu teclynnau clyw); gwenwyn; camddefnyddio a phrynu a gwerthu cyffuriau; meddyginiaethau dynol a chynhyrchion meddyginiaethol, gan gynnwys rhoi caniatâd i’w defnyddio ac i reoleiddio’u prisiau; safonau sylweddau biolegol a chynnal profion ar sylweddau biolegol (hy sylweddau na ellir cynnal arbrofion cemegol digonol arnynt i weld pa mor bur neu gryf ydynt); taliadau niwed drwy frechiad; bwydydd lles; yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Gwasanaeth Cynghori Meddygol ar Gyflogaeth a’r ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau iechyd a diogelwch.

Ers datganoli, mae’r modd y mae gwasanaethau’r GIG yn cael eu darparu yng Nghymru yn wahanol i’r modd y cânt eu darparu yn Lloegr; er enghraifft, yng Nghymru, mae llai o bwyslais ar driniaeth yn y sector preifat, ac nid yw’r farchnad fewnol yn gweithredu bellach. Mae gwahaniaethau i’w gweld mewn polisïau eraill hefyd ee mae’r polisi i roi presgripsiwn am ddim i bobl Cymru wedi golygu bod angen diffinio pwy yn union sy’n cael hawlio hyn yn yr ardaloedd ar y ffin, ac mae protocol rhwng Cymru a Lloegr yn gosod allan y trefniadau ar gyfer cleifion sy’n cael triniaeth dros y ffin. Mae strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru wedi’i gosod allan yn y ddogfen Cynllun Oes[3]

Strwythur y GIG yng Nghymru

Ar 1 Ebrill 2003, cafodd y GIG yng Nghymru ei ad-drefnu’n sylweddol i greu 22 Bwrdd Iechyd Lleol, a oedd yn cyd-fynd â ffiniau’r awdurdodau lleol, ynghyd â 7 o Ymddiriedolaethau’r GIG. Ar 1 Hydref 2009, disodlwyd y 22 Bwrdd Iechyd a’r 7 Ymddiriedolaeth gan 7 Bwrdd Iechyd Lleol integredig, sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd, a 3 o Ymddiriedolaethau’r GIG (Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus GIG Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru).

Y gwasanaethau iechyd

Fel arfer, caiff gwasanaethau iechyd eu rhannu’n dri, sef gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal trydyddol.

¡  Gofal sylfaenol – meddygon teulu[4], optegwyr, fferyllwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Mae staff gofal iechyd eraill yn darparu gwasanaethau iechyd yn y gymuned gan gynnwys ymwelwyr iechyd, bydwragedd, nyrsys bro, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd, nyrsys meddygfeydd;

¡  Gofal eilaidd – ysbytai a gwasanaethau ambiwlans; 

¡  Gofal trydyddol – gofal arbenigol a ddarperir yn rhai o’r ysbytai mwyaf neu mewn ysbytai arbenigol sy’n trin mathau arbennig o salwch fel canser. Sefydlwyd Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC)[5] ar 1 Ebrill 2010 gan y saith Bwrdd Iechyd Lleol, dan ofal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, ac mae’n gyfrifol am gydgynllunio gwasanaethau arbenigol a thrydyddol ar ran Byrddau Iechyd Lleol Cymru.

Yn ogystal â hyn, mae’r GIG yn cynnig gwasanaethau arbenigol sy’n cynorthwyo â’r gwaith o roi diagnosis a thriniaeth feddygol ac atal clefydau, fel gwasanaethau sgrinio.

Fel y nodwyd uchod, er bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau datganoledig dros gynllunio teulu a gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau a chyfleusterau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol a gwasanaethau a chyfleusterau ategol, nid oedd ganddo bwerau dros reoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol, er enghraifft, nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau dros gytundebau meddygon teulu.

Ariannu’r GIG

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu adnoddau refeniw bob blwyddyn i’r Byrddau Iechyd Lleol. Arian i dalu’r gost o redeg y GIG o ddydd i ddydd yw hwn. Defnyddir y Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf i ariannu adeiladau a chyfarpar, i sicrhau bod gan Gymru, fel y nodwyd yn y strategaeth Cynllun Oes, [6] y cyfleusterau iechyd sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gyda’r gorau yn y byd erbyn 2015. [7]

Cwynion ac atebolrwydd

Cyrff statudol annibynnol yw Cynghorau Iechyd Cymunedol ac maent yn cynrychioli buddiannau’r claf a’r cyhoedd yn y GIG. Gallant roi cymorth a chyngor i’r rhai sydd am gwyno am wasanaethau’r GIG ac maent yn monitro safon gwasanaethau’r GIG o safbwynt y claf.

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw’r corff annibynnol sy’n arolygu ac yn rheoleiddio’r holl ofal iechyd yng Nghymru.  Mae’r Arolygiaeth hon yn canolbwyntio’n bennaf ar roi sicrwydd annibynnol i gleifion, y cyhoedd, Llywodraeth Cymru a darparwyr gofal iechyd, fod gwasanaethau’n ddiogel a’u bod o safon dda. Caiff gwasanaethau eu hadolygu drwy eu cymharu ag amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau sydd wedi’u cyhoeddi.    

 

Y system gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

Nod y gwasanaethau gofal cymdeithasol yw hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol. Gallant gynnwys amrywiaeth eang o gymorth gan gynnwys rhoi gwybodaeth a chyngor, cwnsela ac eiriolaeth, cymhorthion ac addasiadau, help gyda thasgau domestig, cymorth i feithrin sgiliau cymdeithasol a gofal personol. Gellir darparu’r gwasanaethau mewn cartrefi gofal preswyl, yng nghartref y defnyddiwr neu mewn lleoliadau eraill yn y gymuned, fel canolfannau dydd.  

Mae’r cyfrifoldeb dros ofal cymdeithasol wedi’i ddatganoli i Gymru, er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am bolisi nawdd cymdeithasol.

Caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol eu trefnu gan awdurdodau lleol i bobl sy’n bodloni’u meini prawf cymhwyster, yn dilyn asesiad gofal cymunedol. Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am wasanaethau i oedolion ac i blant a hynny o dan Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â chyfrifoldebau statudol. Mae Cymru yn wahanol i Loegr yn y cyswllt hwn gan fod gwasanaethau cymdeithasol i oedolion ac i blant ar wahân yn Lloegr fel arfer.   

Gall yr awdurdodau lleol ei hun ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol neu gallant eu comisiynu gan ddarparwyr yn y sector preifat neu wirfoddol. Gellir darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i ddefnyddwyr, neu gellir rhoi taliadau uniongyrchol iddynt i’w defnyddio i brynu eu gwasanaethau eu hunain. Mae’n bosibl y bydd angen cynnal prawf modd mewn perthynas â rhai o wasanaethau’r awdurdodau lleol, gan gynnwys gwasanaethau a brynir â thaliadau uniongyrchol.  Neu, gall unigolion brynu gwasanaethau’n breifat. 

Weithiau, y GIG fydd yn gyfrifol am wasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol i bobl sydd ag anghenion hirdymor sy’n ymwneud yn bennaf â’u hiechyd. Caiff hyn ei alw’n Ofal Iechyd Parhaus gan y GIG. 

Y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol amlaf yw pobl anabl sydd â nam corfforol neu nam ar eu synhwyrau, pobl sydd ag anableddau dysgu, pobl hŷn, a’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, pobl sydd â phroblemau oherwydd eu bod yn cam-drin sylweddau, a gofalwyr. 

Nod gwasanaethau i ofalwyr yw eu cynorthwyo i roi gofal, er enghraifft, drwy gynnig gofal seibiant. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth Gofalwyr Cymru : Cynllun Gweithredu (2007)[8] ac mae wedi deddfu i wella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr ym Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010

Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, sef Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol (2007)[9] ac mae wedi cyhoeddi papur ar ddyfodol gwasanaethau cymdeithasol, sef Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru:Fframwaith Gweithredu[10] ym mis Chwefror 2011. Bwriedir cyflwyno Bil Gofal Cymdeithasol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, ac mae gwaith i newid y modd y telir am wasanaethau gofal cymdeithasol ar y gweill.

Cymhorthion ac addasiadau

Y GIG ac awdurdodau lleol, yn aml ar y cyd, sy’n darparu offer cymunedol, fel cadeiriau olwyn a chymhorthion cyfathrebu. Mae Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, a gaiff ei weinyddu gan awdurdodau lleol, ar gael i dalu am addasiadau mwy sylweddol, er enghraifft, lifft ar y grisiau.  

Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol

Mae gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) gyfrifoldeb dros wella gwasanaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar ac mae’n gwneud hynny drwy reoleiddio, arolygu ac adolygu’r sector hwnnw. Mae’n cyflawni’r swyddogaethau hyn ar ran Gweinidogion Cymru ac mae’n rhan o un o adrannau Llywodraeth Cymru. Bydd darparwyr gofal cymdeithasol yn cofrestru ag AGGCC sy’n cynnal arolygiadau ac yn sicrhau bod gwasanaethau’n cydymffurfio â’r rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.   Bydd AGGCC hefyd yn adolygu’r modd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni’u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.  

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw Cyngor Gofal Cymru ac mae’n gyfrifol am reoleiddio, hyfforddi a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Fel rhan o’r cylch gwaith hwn, mae’r Cyngor yn gyfrifol am gofrestru rhai gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, fel gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr cartrefi gofal, ac mae hefyd yn gyfrifol am safonau ac ymddygiad gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol. 

 

Gwasanaethau iechyd meddwl

Bydd y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl. Yn aml iawn, caiff gwasanaethau cymunedol eu comisiynu gan y sector gwirfoddol, sydd hefyd yn cyflawni rôl bwysig o ran ymgyrchu ac eirioli ym maes iechyd meddwl. 

Mae’r cyfrifoldeb dros wasanaethau wedi’i ddatganoli i Gymru i raddau helaeth, ond nid yw’r cyfrifoldeb yn cynnwys rhai agweddau ar bolisi iechyd meddwl yn ymwneud â gorfodaeth.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol y GIG yn cynnwys y rheini a gaiff eu darparu gan feddygon teulu a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio yn y gymuned. Y gwasanaethau gofal eilaidd yw’r gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol hynny a gaiff eu darparu naill mewn ysbytai neu yn y gymuned. Timau Iechyd Meddwl Cymunedol sy’n darparu gwasanaethau yn y gymuned, ac mae’r timau hyn yn cynnwys gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gwasanaethau gofal trydyddol yn fwy arbenigol eto ee i bobl sydd ag anhwylder bwyta a’r rhai sy’n cael eu trin mewn lleoliadau diogel.   

Mae’r dogfennau allweddol yn cynnwys Deddf Iechyd Meddwl 1983 i Gymru a Lloegr (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007); Codi'r Safon: Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Diwygiedig a Chynllun Gweithredu i Ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion yng Nghymru (2005)[11];  Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Caiff y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) eu darparu gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o fewn fframwaith strategaeth CAMHS Llywodraeth Cymru, sef Busnes Pawb (2001)[12].  Yn dilyn adolygiad yn 2009 gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu yn 2010, sef Chwalu’r Rhwystrau: Ateb yr Heriau[13] i ymdrin â’r problemau a amlygwyd yn yr adroddiad. Er bod materion sy’n gysylltiedig â CAMHS yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gallu ystyried materion trawsbynciol mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl plant, gan gynnwys y cyfnod pan fydd pobl ifanc yn trosglwyddo o’r gwasanaethau plant i’r gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion.

Mae gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gyfrifoldeb dros arolygu a rheoleiddio’r gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys adolygu’r modd y defnyddir Deddf Iechyd Meddwl 1983.  O dan y Ddeddf hon, mae modd cadw cleifion dan orchymyn neu gellir eu rhoi dan Warchodaeth neu eu gorfodi i gael Triniaeth Gymunedol dan Oruchwyliaeth. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ymgymryd â’i swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru ac mae’n rhan o Lywodraeth Cymru, er bod disgwyl i’r corff weithredu’n annibynnol.    

 

Pobl hŷn

Y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodau lleol sy’n darparu gwasanaethau i bobl hŷn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn (2006)[14] i geisio gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau mynediad teg i wasanaethau i bobl hŷn ledled Cymru, a Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn (2003 a 2008)[15].

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sefydlwyd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar 21 Ebrill 2008 o dan delerau Deddf Comisiwn Pobl Hŷn (Cymru) 2006[16].  Rôl y Comisiwn yw gofalu bod buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, (60 oed neu’n hŷn)  yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo. 

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r Comisiwn ond mae’n gweithredu’n annibynnol ar Weinidogion Cymru ac mae’n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bob blwyddyn, rhaid i’r Comisiwn baratoi adroddiad Cyfrifon Blynyddol, yn unol â chyfarwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rhaid i yntau dystio bod y cyfrifon yn gywir a gosod yr adroddiad, ynghyd â’i adroddiad ei hun, gerbron Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[17]

Ruth Marks yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Sarah Stone yw’r Dirprwy Gomisiynydd.

 

Iechyd y cyhoedd gan gynnwys diogelu iechyd, gwella iechyd ac anghydraddoldebau iechyd

 

Iechyd cyhoeddus yw’r term a ddefnyddir i gyfeirio at atal afiechydon a hybu iechyd a lles. Nod y gwasanaethau iechyd cyhoeddus yw ymyrryd i wella iechyd a bywydau pobl drwy atal a thrin afiechydon, a chyflyrau corfforol a meddyliol, drwy gadw llygad ar achosion ac annog pobl i ymddwyn mewn ffordd sy’n diogelu’u hiechyd.   

Yn ôl Maniffesto Llafur 2011, buddsoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru £190 miliwn mewn iechyd cyhoeddus y tymor diwethaf, gan gyflwyno amrywiaeth eang o raglenni i wella iechyd, gan gynnwys iechyd rhywiol, ysmygu a chamddefnyddio sylweddau. Mae hefyd yn nodi blaenoriaethau iechyd cyhoeddus yn ystod y tymor hwn, sef alcohol, gordewdra, ysmygu, beichiogrwydd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau a chamddefnyddio cyffuriau [18].

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor a gwasanaethau annibynnol ym maes iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd fel un o Ymddiriedolaethau’r GIG ar 1 Hydref 2009, ac mae’n cynnwys y swyddogaethau a’r gwasanaethau a ddarparwyd gan hen Wasanaethau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Canolfan Iechyd Cymru, Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru a Gwasanaethau Sgrinio Cymru.

Lansiwyd strategaeth pum mlynedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Hydref 2010[19]. Mae saith nod strategol ac wyth ffordd o ddisgrifio sut y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cymorth arbenigol i bob Bwrdd Iechyd Lleol a’u Cyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus. Mae gan y Byrddau Iechyd Lleol nifer o swyddogaethau statudol mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus gan gynnwys: ymchwilio i glefydau trosglwyddadwy a’u rheoli; hybu a monitro rhaglenni brechu a materion yn ymwneud ag iechyd yr amgylchedd.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd rhoi cymorth penodol i’r Byrddau ym maes amddiffyn plant.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cymorth arbenigol ym maes iechyd cyhoeddus i’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

 

Diogelwch bwyd

Lansiwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, ac yng ngwledydd eraill y DU, ym mis Ebrill 2000, o dan delerau’r Ddeddf  Safonau Bwyd 1999 [20] i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r Asiantaeth yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth y DU. Caiff gwaith yr Asiantaeth yng Nghymru ei oruchwylio gan Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru. 

Ar ôl cyhoeddi Adroddiad Pennington ar yr achosion o E.coli yng Nghymru yn 2005, mae’r Asiantaeth yn archwilio’r holl glefydau sy’n cael eu cario mewn bwyd, ac mae wedi sefydlu’r Rhaglen Cyflenwi Hylendid Bwyd i geisio lleihau nifer y clefydau sy’n cael eu cario mewn bwyd. Mae’r rhaglen yn parhau tan 2016 ac, yn ogystal â rhoi argymhellion Adroddiad Pennington ar waith, bwriedir adolygu’r broses o orfodi hylendid bwyd yng Nghymru yn 2014. 

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ymchwiliad ym mis Mehefin 2010 i’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran rhoi argymhellion Adroddiad Pennington ar waith.

 

Ymchwil a datblygu ym maes iechyd  a gofal cymdeithasol

Nod strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru, sef Cynllun Oes, yw cryfhau gweithgareddau atal clefydau a gwaith ymchwil yng nghyswllt y polisi iechyd cyhoeddus. Mae themâu’r gwaith ymchwil presennol yn cynnwys: y fenter Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd; Arolwg Iechyd Cymru; astudiaeth i Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol a datblygu penderfynyddion dangosyddion iechyd.

Bydd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, mewn ymgynghoriad â phartneriaid, yn datblygu polisi ynglŷn ag ymchwil a datblygu i adlewyrchu blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Un o gyrff Llywodraeth Cymru yw hwn.   

 

Gwasanaeth iechyd y Gwasanaeth Carchardai

Caiff cyfleusterau gofal iechyd mewn carchardai eu harolygu gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros wasanaethau gofal iechyd mewn carchardai o’r gwasanaeth carchardai i’r GIG yn wreiddiol o dan Adran 23 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (sy’n awr wedi’i ddiddymu). Yng Nghymru, cafodd yr holl ddeddfwriaeth yn  ymwneud â gofal iechyd ei gydgrynhoi yn 2006; yn awr, Adran 188 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (Cymru) 2006 yw’r awdurdod perthnasol ar gyfer gweithio ar y cyd â chyrff y GIG a’r gwasanaeth carchardai.  Bryd hynny, datblygodd y gwasanaethau gofal iechyd mewn carchardai i fod yn rhan annatod o’r GIG ac, ers hynny, y Byrddau Iechyd Lleol sydd wedi bod yn gyfrifol am gomisiynu gofal iechyd i garchardai’r sector cyhoeddus yn eu hardaloedd. Gan hynny, gallai unrhyw ddyletswyddau newydd a roddir ar y GIG fod yn gymwys i garchardai Cymru, ac i blant a throseddwyr ifanc sydd yn y ddalfa. Mae llawer o garcharorion o Gymru, fodd bynnag, yn cael eu cadw yng ngharchardai Lloegr, gan gynnwys plant a phob merch, ac mae trefniadau trawsffiniol yn gymwys i’r rhain.

 

 

 

 



[1] Deddf Llywodraeth Cymru 1998, (Pennod 38) [fel ar 29 Mehefin 2011]

[2] Deddf Llywodraeth Cymru 2006, (Pennod 32) [fel ar 1 Gorffennaf 2011]

[3] Llywodraeth Cymru, Cynllun Oes – creu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol sydd gyda’r gorau yn y byd yn yr 21fed ganrif, Mai 2005 [fel ar 29 Mehefin 2011]

 

[4] Mae’r rhan fwyaf o feddygon teulu’n gontractwyr annibynnol nad ydynt yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG.

[5] Weithiau, cyfeirir at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru fel y Cyd-bwyllgor.

[6] Llywodraeth Cymru, Cynllun Oes – creu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol sydd gyda’r gorau yn y byd yn yr 21fed ganrif, Mai 2005 [fel ar 29 Mehefin 2011]

[7] Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, GIG Cymru, Gwybodaeth am GIG Cymru [fel ar 29 Mehefin 2011]

[8] Llywodraeth Cymru  Strategaeth Gofalwyr Cymru: Cynllun Gweithredu (2007) [fel ar 1 Gorffennaf 2011]

[9] Llywodraeth Cymru Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol  (2007) [fel ar 1 Gorffennaf 2011]

[10] Llywodraeth Cymru Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu (2011) [fel ar 1 Gorffennaf 2011]

[11] Llywodraeth Cymru Codi’r Safon: Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Diwygiedig a  Chynllun Gweithredu i Ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion yng Nghymru  (2005) [fel ar 4 Gorffennaf 2011]

[12] Llywodraeth Cymru Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc: Busnes Pawb  (2001) [fel ar 1 Gorffennaf 2011]

[13] Llywodraeth Cymru Chwalu’r Rhwystrau: Ateb y Sialensau Cymorth Gwell ar gyfer Plant a Phobl Ifanc gydag Anghenion Lles Emosiynol a Iechyd Meddwl –Cynllun Gweithredu i Gymru(2010) [fel ar 4 Gorffennaf 2011]

[14] Llywodraeth Cymru  Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru  2006 [fel ar 4 Gorffennaf  2011]

[15] Llywodraeth Cymru Y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn Cymru 2003-2008 [fel ar 4 Gorffennaf  2011],  Y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn Cymru2008-2013 [fel ar 4 Gorffennaf  2011]

[16] Deddf Comisiwn Pobl Hŷn (Cymru)  2006, (Pennod 30) [fel ar 29 Mehefin 2011]

[17] Deddf Comisiwn Pobl Hŷn (Cymru)  2006, (Pennod 30) [fel ar 29 Mehefin 2011]

[18] Maniffesto Llafur Cymru 2011

[19] Strategaeth Pum Mlynedd Iechyd Cyhoeddus Cymru

[20] Deddf Safonau Bwyd 1999, (Pennod 28) [fel ar 1 Gorffennaf 2011]